Hafan
Oddi ar Eisteddfod Treganna
Neges bwysig - canslo Eisteddfod Treganna 2011
Annwyl gyfaill,
Hoffwn ddiolch i chi am ddangos diddordeb mewn trefnu Eisteddfod yn Nhreganna a chyfrannu eich syniadau at y prosiect.
Fe deimlom, o'r cychwyn cyntaf, ddyletswydd i drefnu gŵyl safonol oedd yn cyfateb â brwdfrydedd pobl dros y fenter. Yn anffodus am nifer o resymau, gan gynnwys ymrwymiadau eraill, nid ydym wedi cael cyfle digonol i roi ein sylw llawn i gynllunio'r Eisteddfod eleni. Felly, awgrymwn ein bod yn gohirio’r digwyddiad eleni, fel y cynlluniwyd ar Fedi 10fed 2011.
Rydym dal am gynnal Eisteddfod gymunedol yn Nhreganna yn y gobaith o sefydlu digwyddiad fel un blynyddol. Deallwn y bydd hynny'n golygu ymroi cant y cant i'r ymdrech. Gobeithiwn, y gallwn ni, gyda'n gilydd ystyried dyddiadau eraill yn 2012, megis mis Mehefin neu fis Gorffennaf.
Croesawn unrhyw sylwadau trwy
- e-bost
- ar treganna.org ar y tudalen Sgwrs:Hafan
- ar y cofnod blog yma
Diolch eto am eich holl gefnogaeth,
Yn gywir,
Colin Nosworthy
Carl Morris
Hen dudalen Hafan 2011
Rydyn ni wedi cadw'r syniadau a'r gwaith datblygu yma.
English
Thanks for your interest but we've cancelled Eisteddfod Treganna 2011 because of other commitments. We'd rather organise a high quality event when we have the capacity rather than struggle to hold something inferior. We have kept all the ideas we generated here - in the future we hope to revisit the plan.